V
Mae yna ddigonedd i chi a'ch teulu ei fwynhau yma - o'r wifren zip hiraf yn Ewrop, anturiaethau arfordirol a llwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang i weithgareddau mwy hamddenol ar hyd draethau a llynoedd bendigedig.
Mae Gwynedd yn gadarnle i'r Gymraeg ac mae ein cymunedau yn falch o arddel ein diwylliant ac estyn croeso Cymreig.
Mae rhai o'r cestyll a'r henebion mawreddog sydd yma yng Ngwynedd Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac yn atyniadau arbennig i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes cyfoethog y sir. Mae yma hefyd ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn sy'n dod â'n treftadaeth ddiwylliannol yn fyw.