V
Mae trigolion Gwynedd ymhlith yr hapusaf yng Nghymru. 'Does syndod a dweud y gwir, o ystyried bod rhan helaeth o'r sir o fewn ardaloedd o harddwch eithriadol, yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Gydag amgylchedd glân a hamddenol, mae arfordir a mynyddoedd Gwynedd yn hafan ddelfrydol i adfywio'r enaid.
Mae ein cymunedau ymhlith y mwyaf diogel yn y wlad, a'n dwyieithrwydd naturiol yn cyfoethogi'r diwylliant lleol ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'r farchnad dai yn un o'r rhai mwyaf cystadleuol yn y DU, ac mae'r ysgolion a cholegau addysg bellach sydd yn y sir yn cynnig addysg a hyfforddiant heb eu hail.
Yn syml, mae Gwynedd yn lle anhygoel i fyw.