V
Beth bynnag fo'ch sector - ynni, digidol, gwyddoniaeth ac ymchwil, gweithgynhyrchu, twristiaeth neu'r cyfryngau creadigol - gallwch fanteisio ar y statws Parth Menter sydd gan rannau o'r sir yn ogystal â chysylltiadau gyda chanolfannau ymchwil rhagorol ym Mhrifysgol Bangor ac Aberystwyth. Ar ben hynny, mae rhwydwaith ardderchog o wasanaethau cefnogi busnes a darparwyr hyfforddiant.
Tra gallwch osgoi traffig mawr o ddydd i ddydd, 'dyw Llundain ddim ond 3 awr i ffwrdd ar y trên a Manceinion lai na dwy awr mewn car. Dafliad carreg i ffwrdd mae Maes Awyr Môn gyda theithiau awyren 45 munud yn ddyddiol i Gaerdydd, a Phorthladd Caergybi lle gallwch groesi i Iwerddon mewn 90 munud.
Nid rhywbeth i'r dinasoedd mawr yn unig yw band eang cyflym - gallwch gysylltu â'r byd o bob rhan o Wynedd.